Darlithydd: Arlwyo

Nptc-Group-of-College

Cilfrew

On-site

GBP 26,000 - 48,000

Full time

6 days ago
Be an early applicant
Application generator

Stand out for this role — generate a tailored resume and cover letter in about a minute.

Get past ATS filters

Benefits offered by this job

Pensiwn Llywodraeth Leol
Pensiwn Athrawon
46 diwrnod o wyliau y flwyddyn
Gynllun iechyd Galwedigaethol

Job summary

Grwp Colegau NPTC yng Ngholeg Castell-Nedd yn chwilio am Darlithydd Arlwyo i ddarparu addysg o ansawdd uchel ac i gyfrannu at lwyddiant dysgwyr. Byddwch yn gweithio gyda staff sefydledig a myfyrwyr mewn amgylchedd coleg bywiog.

Gofynion cynnwys cymhwyster Lefel 3 mewn Arlwyo a Lletygarwch, profiad diwydiant, a chymhwyster addysgu. Bydd hyfforddiant ar gael. Hefyd gofynir safonau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 a gallu TG.

Qualifications

  • Cymhwyster Lefel 3 mewn Arlwyo a Lletygarwch.
  • Profiad perthnasol yn y diwydiant a chymhwyster addysgu (darperir hyfforddiant).
  • Swyddogaeth â sgiliau TG hyd at Lef 2 a chymhwyster Saesneg/Maegrwydd.

Responsibilities

  • Darlledu addysg fodern mewn arlwyo a lletygarwch.
  • Cydweithio gyda staff a dysgwyr i gyflawni canlyniadau.
  • Rhoi cymorth ac asesu dysgwyr yn gymwys.

Skills

Diwydiant profiad
Hoffi addysg

Education

Lefel 3 mewn Arlwyo a Lletygarwch
Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfatebol)
Gynhwysiad TG hyd at Lef 2

Tools

Microsoft Office

Job description

Darlithydd: Arlwyo

Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffnio, gwyliau hael

Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen.

Band A. Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 699.6 - 835 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol).

Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).

Grwp Colegau NPTC - i’w leoli yng Ngholeg Y Castell-Nedd

Ynglyn â chi: Yn ddelfrydol dylech feddu ar gymhwyster lefel 3 (NVQ neu gyfwerth) mewn Arlwyo a Lletygarwch, profiad perthnasol yn y diwydiant, a chymhwyster addysgu (darperir hyfforddiant). Dylech hefyd feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfatebol) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2. Byddai Dyfarniadau Asesydd/Dilysydd yn fanteisiol.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni'n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Get your free, confidential resume review.

or drag and drop your file here.

Similar jobs

Similar jobs worth comparing

Darlithydd: Astudiaethau Sylfaen
Darlithydd: Astudiaethau Sylfaen

Nptc-Group-of-College • Cilfrew

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Competitive salary
Pension scheme with enhanced benefits
Generous holidays
Darlithydd: PGCE/PCET
Darlithydd: PGCE/PCET

Nptc-Group-of-College • Newtown

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Competitive salary
Pension plan with benefits
Generous holidays
+2
Darlithydd: TGAU Saesneg a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Darlithydd: TGAU Saesneg a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch

Nptc-Group-of-College • Cilfrew

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Pensiwn Llywodraeth Leol
Wyliau 59 diwrnod y flwyddyn
Gwasanaethau Lles a Iechyd galwedigaol
Darlithydd: ESOL
Darlithydd: ESOL

Nptc-Group-of-College • Newtown

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Buddion pensiwn
Gwasanaethau iechyd
Diwrnodau gwyliau uchel
Darlithydd: PGCE/PCET
Darlithydd: PGCE/PCET

Career Choices Dewis Gyrfa Ltd • Newtown

On-site
GBP 26,000 - 31,000
Pension plan
Flexible working
Generous holiday allowance
Darlithydd: Astudiaethau Sylfaen
Darlithydd: Astudiaethau Sylfaen

Career Choices Dewis Gyrfa Ltd • Cilfrew

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Pensiwn Llywodraeth Leol
Pensiwn Athrawon
46 diwrnod o wyliau y flwyddyn
Darlithydd: ESOL
Darlithydd: ESOL

Career Choices Dewis Gyrfa Ltd • Newtown

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Pension plan
Flexible hours
Darlithydd: Saesneg TGAU
Darlithydd: Saesneg TGAU

Nptc-Group-of-College • Newtown

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Cyflog cystadleuol
Cynllun pensiwn â buddion wedi'u diff노
Gwyliau hael
Llyfrgellydd y Coleg
Llyfrgellydd y Coleg

Nptc-Group-of-College • Newtown

On-site
GBP 36,000 - 37,000
Pensiwn buddion
Gwyliau blynyddol 41 diwrnod
Cydlynydd Cynadleddau (Theatr Hafren)
Cydlynydd Cynadleddau (Theatr Hafren)

Nptc-Group-of-College • Newtown

On-site
GBP 26,000 - 28,000
Competitive salary
Pension plan with benefits
Generous holidays