A complete application in a minute
Tailored resume and cover letter, ready to send.
Gradd 4 (pro rata 30.8 awr yr wythnos / 39 wythnos) yng Nghymru. Mae'r ysgol yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn Adran Gynnal Dysgu i gefnogi disgyblion drwy gyflawni sesiynau un i un a gweithio mewn grwpiau bach ac o fewn ystafell ddosbarth.
Mae'r rôl yn cynnig datblygu gyrfa a hyfforddiant i alluogi gwaith ag athrofa i wella sgiliau sylfaenol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â tharppa a chymhelliant cadarn i weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan helpu i
Gradd 4 (pro rata 30.8 awr yr wythnos / 39 wythnos)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser yn yr Adran Gynnal Dysgu. Dyma gyfle arbennig i weithio o fewn tîm cynnal sydd â’u bryd ar gynorthwyo disgyblion yn eu dysgu ac i wella sgiliau sylfaenol disgyblion mewn sesiynau un i un, mewn grwpiau bychain ac o fewn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r Adran Gynnal Dysgu yn cynorthwyo nifer o ddisgyblion i sicrhau fod eu mynediad at addysg yn rhwydd ac yn llifo yn fwy hwylus gyda chymorth oedolyn ac arweiniad unigol. Mae rhai disgyblion â thrafferthion sgiliau sylfaenol, megis llythrennedd neu rifedd a disgyblion eraill angen cymorth corfforol neu emosiynol. Mae disgyblion sy’n derbyn cymorth o fewn yr adran yn gwerthfawrogi’r gynhaliaeth ac yn gwneud cynnydd da gydag arweiniad ac yn llwyddo i ymdopi a llwyddo gyda gofynion y cwricwlwm.Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael brwdfrydedd ac awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w datblygiad a’u cynnydd o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc. Mae angen amynedd i weithio gyda phlant sy’n gallu teimlo’n rhwystredig o fewn ysgol a’r ddawn i argyhoeddi a chymell unigolion i roi o’u gorau ac i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.
Byddwn yn hapus iawn i ddarparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg. Yn sicr, mae’r swydd a’r ysgol yn cynnig datblygiad gyrfa cyffrous ac unigryw.
Yn ogystal mae’r adran yn frwd iawn i roi profiadau i ddisgyblion o fywyd y thu hwnt i wersi ffurfiol drwy weithdai ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb yn lleol ac i ymwneud â phrofiadau sy’n cyfoethogi eu profiad o fyd addysg ffurfiol. Edrychwn am unigolion fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog yr ysgol.