Proud member of the Disability Confident employer scheme
Cynorthwy-ydd Achlysurol (Staff banc) Meithrinfa Camau Bach
Company: Mudiad Meithrin Cyf Salary: Meets national minimum wage Hours: Part-time Location: Aberystwyth, SY23 1PD Working pattern: On-site Job type: Temporary Posting date: 11 Nov 2026 Closing date: 25 Nov 2026
Summary
Dyletswyddau’r Swydd:
- Sicrhau bod pob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf
- Dilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisïau'r Feithrinfa
- Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol
- Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg
- Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ôl ei anghenion
- Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol
- Sicrhau bod adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant
- Croesawu rhieni i’r Feithrinfa ar bob adeg
- Sicrhau fod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant
- Sicrhau y darperir gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o’u amgylchedd
- Arddangos gwaith y plant
- Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd
- Cydweithio i weithredu gofynion Dysgu Sylfaen
- Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i’r plant o fewn y feithrinfa
- Trochi’r plant yn y Gymraeg drwy gydol y dydd.
- Disgwylir i bob aelod o staff cyfathrebu’n Gymraeg gyda’u cyd-weithwyr
- Cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch ar bob amser
- Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd
- Gweithredu pob gweithdrefn a pholisi ar bob adeg
- Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar
- Parchu a gweithredu polisi Cyfrinachedd y Feithrinfa
- Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg
- Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa a Rheolwr Meithrinfeydd Cymru.
About Disability Confident
Disability Confident is a government scheme. It encourages employers to recruit and retain disabled people and those with long term health conditions.