Enable job alerts via email!
Mae Gweithredwr Hamdden yn chwilio am Athro Nofio Cynorthwyol i gyflwyno gwersi nofio a chynorthwyo i sicrhau diogelwch a disgyblaeth cwsmeriaid. Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl o bob oedran, gyda phob cymorth a hyfforddiant yn cael ei gynnig. Mae'r swydd yn cynnig oriau hyblyg a phecyn buddion da i'r gweithwyr.
Os ydych yn hoffi siarad gyda phobl, dyma’r swydd yn bendant i chi. Rydym yn deall nad yw ymgysylltu gyda chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae’n swnio ac y bydd hyn yn datblygu weithiau gyda phrofiad. Fe fyddwn yn darparu’r holl hyfforddiant sydd ei angen i fod yn Athro Nofio llwyddiannus ond rydym hefyd yn credu fod cyflogi pobl o gefndirooedd cyflogaeth cymysg yn gallu cynnig buddion ehangarach i’n tîm, gyda rhai ohonynt a allai fod yn eu swydd gyntaf erioed ac angen mwy o gefnogaeth oddi wrth eu rheolwr a chydweithwyr.
O fewn rôl Athrawes Nofio Cynorthwyol, fe fyddwch yn cyflwyno gwersi nofio i gwsmeriaid o bob oedran a gallu gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac yn cyflawni eu nodau.
Os ydych eisiau gwneud cynnydd pellach, fe fyddwn yn eich cefnogi trwy’r hyfforddiant ychwanegol hwn. Fe fydd gwneud hyn yn ffurfiol ac ar y swydd yn allweddol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb eisiau ‘symud i fyny’r ysgol’ ac mae hynny’n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw eich bod yn hapus yn eich gwaith.
Yn Freedom Leisure, rydym yn croesawu ein cymuned leol amrywiol i’n canolfannau pob dydd ac rydym eisiau adlewyrchu’r un gymysgedd amlddiwydiodol o fewn ein busnes yn ogystal. Rydym hefyd yn ymdrechu i greu gweithle cynhwysol ac amrywiol lle y gall pobl fod eu hunain, cael yr un cyfleoedd a ffynnu gyda’i gilydd. Oherwydd yn Freedom Leisure, Rydych Chi’n Cyfrif!
Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo wedi’u gwerthfawrogi, beth bynnag fo eu hoedran, hil, rhyw, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw bod yn gyflogwr o ddewis o fewn ein diwydiant ac rydym yn ymdrechu am hyn bob diwrnod.
In the event that a high volume of suitable applications are received, the post may close prior to the specified closing date. Please apply as soon as possible if interested.
Hours: Casual hours, as and when required
Gofynion -
Rydym am i chi fod wrth eich bodd yn dod i’r gwaith, gan deimlo’n iach, yn hapus ac yn cael eich gwerthfawrogi. Dyna pam ein bod ni wedi datblygu pecyn buddion gyda chi mewn golwg. Felly beth allwn ni ei gynnig i chi?
We want you to love coming to work, feeling healthy, happy and valued. That's why we've developed a benefits package with you in mind, so what can we offer you?
Cyflog: hyd at £12.21 yr awr / Salary: up to £12.21 per hour