A complete application in a minute
Tailored resume and cover letter, ready to send.
Careers Wales yn cynorthwyo pobl yng Nghymru i feddwl am eu gyrfa a chefnogi pobl i barhau i waith neu hyfforddiant. Mae rôl Cyswllt Gyrfa Cymru (CGC) yn ddarostyngedig i oriau llawn 37 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda gwaith o adref fel rhan o gynllun rota a mynediad i gyswllt tîm CGC.
Mae’n swydd ddigidol a gallwch weithio o unrhyw le yng Nghymru, gyda mynychu swyddfa wedi'i drefnu yn ôl gofynion busnes a bydd angen sgiliau Cymraeg pendant i gyfathrebu a chyngor i gleientiaid.
Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yn gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid dri defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys raglen Cymru'n Gweithio.
Cyflog: £26,276–£28,256
Cyflog Cychwynnol £26,276
Mae gennym swydd llawn amser yn ein tîm Cyswllt Gyrfa Cymru (CGC). Oriau gwaith swydd llawn amser yw 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r gwasanaeth CGC ar agor o 9yb tan 5yh, felly bydd disgwyl i ddeiliad swydd weithio i gynnal yr oriau agor yma ar sail rota.
Mae'r swydd yn ddigidol, felly gall yr ymgeisydd llwyddiannus gael ei l/lleoli unrhyw le yng Nghymru gan y bydd y rol yn golygu gweithio o'r cartref yn bennaf. Bydd deiliad y swydd yn cael ei neilltuo i ganolfan a bydd angen mynychu’r swyddfa yn ôl gofynion y busnes.
Sgiliau iaith Gymraeg: Mae'r gallu i siarad a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch chi'n gallu deall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus.
Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.
Mae ein Anogyddion Cyflogadwyedd